BLASCYMRU / TASTEWALES 2021 – POLISI MYNEDIAD DIOGEL COVID
Cwrdd â'r Prynwr
Cynhadledd
Arddangosfa
Mae Cymru yn gartref i ddiwydiant bwyd a diod hynod ddeinamig ac amrywiol, gyda busnesau'n amrywio o ficro-grefftwyr i gwmnïau bwyd mwy. Mae'r busnesau hyn yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion sy’n amrywio o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd arbenigol i eitemau cyfaint uchel ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu mawr.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2019, bydd BlasCymru/TasteWales 2021 yn dod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant bwyd at ei gilydd ar gyfer cynhadledd a digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol nodedig. 2021 fydd y tro cyntaf iddo gael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.
Llwyddiant y Digwyddiad
Dyma brif lwyddiannau BlasCymru/TasteWales 2019:
- Dros 780 o gynadleddwyr wedi cymryd rhan.
- Dros 1600 o gyfarfodydd busnes un-i-un wedi cael eu hwyluso.
- Lansio 159 o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol o Gymru.
- Dros 190 o brynwyr masnachol wedi dod i’r digwyddiad, i gwrdd â dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru.


Pwy ddylai ddod?
Mae BlasCymru/TasteWales yn addas i chi os ydych chi’n gynhyrchydd yng Nghymru, yn brynwr cenedlaethol neu ryngwladol, neu’n ymwneud â’r canlynol:
- Gwasanaethau bwyd a lletygarwch, arlwyo, caffis, tai llety, gwestai, tafarndai a bwytai.
- Manwerthu – siopau delicatessen, siopau groser, siopau fferm, archfarchnadoedd a chwmnïau annibynnol.
- Y sector cyhoeddus – ysgolion, colegau, ysbytai.