Cyhoeddi dyddiadau prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023

Cyhoeddi dyddiadau prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023

  • Pryd: 25 - 26 Hydref 2023
  • Ble: Y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, Cymru
  • Beth: Broceriaeth rhwng prynwyr a busnesau bwyd a diod; Cinio VIP a chyfleoedd i rwydweithio; seminarau, dyfodol cynaliadwy ac arddangosfa.

Bydd digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol Cymru, BlasCymru/TasteWales, yn cael ei gynnal ar 25 a 26 Hydref 2023, mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cadarnhau.

Mae’r digwyddiad deuddydd a drefnir gan is-adran Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, wedi bod yn allweddol mewn blynyddoedd blaenorol o ran creu cyfleoedd busnes newydd i fusnesau Cymreig ac mae wedi gweld cynnyrch o Gymru yn cael ei anfon o amgylch y byd i bobl ei fwynhau.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae Cymru’n falch o fod yn gartref i ddiwydiant bwyd a diod llwyddiannus a deinamig. O fusnesau crefftus i gwmnïau mawr, mae cynhyrchion Cymreig ymhlith y gorau yn y byd.

 

“BlasCymru/TasteWales fydd y pedwerydd digwyddiad o’r fath, yn rhoi llwyfan i fusnesau Cymreig arddangos y cynnyrch gorau sydd gan Gymru i’w gynnig i gynulleidfa fyd-eang, yn ogystal â darparu ffenestr siop i fuddsoddwyr a phartneriaid sydd â diddordeb.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynadleddwyr a noddwyr fel ei gilydd, gan gynnig cyfle heb ei ail i rwydweithio â rhanddeiliaid blaenllaw yn y diwydiant o bob rhan o’r byd.”

Mae bod yn y digwyddiad yn galluogi busnesau i ddod i gysylltiad, rhwydweithio a chynyddu eu proffil brand gyda chynhyrchwyr allweddol, prynwyr yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ehangach y diwydiant. Bydd hyn i gyd yn digwydd yng nghyd-destun digwyddiad bwyd, cynhadledd ac arddangosfa o ansawdd uchel fydd yn cynnwys ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant lle mae sesiynau un i un yn galluogi prynwyr i ymgysylltu â chynhyrchwyr Cymreig a darganfod yr angerdd y tu ôl i'w cynnyrch.

Cyrhaeddodd allforion bwyd a diod o Gymru y lefel uchaf erioed yn 2021 gan gyrraedd £641m, gyda Chymru hefyd yn gweld y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod allan o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 pan gynyddodd £89 miliwn.

Ar ôl datblygu enw da am ansawdd a dilysrwydd yn ei arlwy allforio, mae cadwyn gyflenwi sector bwyd a diod Cymru yn parhau i ffynnu, gan gyrraedd trosiant o £23 biliwn yn 2021. Gydag wyth o'r deg cyrchfan allforio bwyd a diod gorau yng Nghymru yn yr UE ac yn werth £465m yn 2021, mae Cymru hefyd yn ehangu’r arlwy Cymreig i wledydd y tu allan i’r UE, gydag allforion i wledydd y tu allan i’r UE wedi cynyddu i £176m yn 2021 o £138m yn 2020.[1]

 

Gyda channoedd o gynhyrchion yn cael eu harddangos, mae BlasCymru/TasteWales wedi’i gynllunio i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl i brynwyr:

  • Gallwch weld a blasu sampl o arddangosfa cynnyrch ar raddfa fawr – manwerthu, gwasanaeth bwyd a labeli preifat
  • Dewch o hyd i fwyd a diod o Gymru - o labeli brand i labeli preifat
  • Dewch i gwrdd ag ystod eang o gyflenwyr
  • Gallwch fod yn rhan o fformat cyfarfod rhagarweiniol effeithlon
  • Gallwch weithio gyda'n harbenigwyr cyrchu i helpu i ddod o hyd i gynhyrchion a chyflenwyr newydd

 

DIWEDD


Cyswllt cyfryngau:
Cyswllt cyfryngau: Cysylltwch â Delyth Jackson ar delyth.jackson@four.cymru neu 07341 072 473 os hoffech fynychu'r digwyddiad, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach. delyth.jackson@four.cymru or 07341 072 473 if you would like to attend the event, or have any further questions.

Nodiadau i'r golygydd

 

Llwyddiannau blaenorol

Fel digwyddiad masnach bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, mae data a gyhoeddwyd gan Bwyd a Diod Cymru yn amlygu’r rhan hollbwysig a chwaraeodd digwyddiad 2021 o ran meithrin gwerthiannau newydd a helpu i dyfu’r diwydiant.

Yn nigwyddiad 2021 roedd:

  • Bron i 1000 o gynrychiolwyr yn cymryd rhan
  • 100+ o gynhyrchwyr/proseswyr bwyd a diod
  • 200+ o brynwyr masnach yn bresennol o bob rhan o fanwerthu, cyfanwerthu, dosbarthu a’r gwasanaeth bwyd.

Hwylusodd y digwyddiad hefyd 1600+ o gyfarfodydd busnes un-i-un, gan gynhyrchu isafswm o £14.3m o gytundebau busnes newydd, bydd y ffigur hwn yn esblygu dros amser, lansiwyd 244 o gynhyrchion bwyd a diod newydd ac arloesol o Gymru.

Pwy ddylai fynychu?

Mae BlasCymru/TasteWales wedi’i anelu at gynhyrchwyr Cymreig, prynwyr cenedlaethol a rhyngwladol, gydag arweinwyr o:

  • Fanwerthwyr, Gwasanaeth Bwyd a Lletygarwch
  • Manwerthu – siopau delicatessen i siopau fferm a siopau groser, archfarchnadoedd i gwmnïau annibynnol
  • Sector cyhoeddus – ysgolion, colegau, ysbytai.

[1] Bwyd a Diod Cymru