Dealltwriaeth o’r radd flaenaf i fusnesau Cymru – Yn cyflwyno Rhaglen Edrych ar y Diwydiant Bwyd a Diod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen yn darparu mynediad at y mewnwelediad diweddaraf ar fasnach Prydain a Chymru, y sector y tu allan i'r cartref, 50 marchnad allforio a thueddiadau bwyd posib.
Os ydych chi'n fusnes bwyd a diod yng Nghymru, mae'r Rhaglen ar gael i chi, a gallwch ei chyrraedd drwy'r Clwstwr Bwyd a Diod neu Ganolfannau Arloesi Bwyd Cymru.
Cofrestrwch ar gyfer yr ardal i aelodau er mwyn manteisio ar y cyfle hwn i gael golwg fanwl ar bethau, a datblygu eich busnes.
Dewch i ymweld â ni yn Blas Cymru yn y Parth Arloesedd i ddysgu mwy am y ddealltwriaeth flaengar sydd ar gael, a chael cipolwg ar yr ymchwil diweddaraf ar Werth Cymreictod.