Mae Arloesi Bwyd Cymru (ABC), gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn dwyn ynghyd dair canolfan ragoriaeth bwyd sy'n ymroi i annog datblygiad y sector bwyd a diod a darparu cymorth technegol a gweithredol ar bob agwedd ar weithgynhyrchu bwydydd. Mae ABC yn cynnwys tair canolfan, sef:
- Y Ganolfan Technoleg Bwyd, Gogledd Cymru.
- Canolfan Fwyd Cymru, Gorllewin Cymru.
- Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, De Cymru.
P'un a ydych chi’n rhedeg cwmni bwyd yng Nghymru, yn gweithio i weithgynhyrchydd bwydydd amlwladol neu'n cymryd eich camau petrus cyntaf tuag at sefydlu microfusnes bwyd, ABC yw'r adnodd hollbwysig i gael cymorth, cyngor a syniadau creadigol i'ch helpu i ddechrau, ehangu a dod o hyd i atebion i broblemau technegol a gweithredol.
- Y Ganolfan Technoleg Bwyd, Gogledd Cymru – ftc@gllm.ac.uk / 01248 383345
- Canolfan Fwyd Cymru, Gorllewin Cymru – gen@foodcentrewales.org.uk / 01559 362230
- Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, De Cymru – zero2five@cardiffmet.ac.uk / 02920 416306