- Hafan /
- Cwrdd â'r Prynwr /
- Cynhyrchwyr /
Hwn fydd y digwyddiad ‘cwrdd â’r prynwr’ ac arddangos masnachol mwyaf yng nghalendr y diwydiant yng Nghymru.
Mae BlasCymru/TasteWales yn ddigwyddiad unigryw gyda fformat profedig sy’n ei wneud yn effeithlon o ran amser i brynwyr gwrdd â chyflenwyr posibl. Mae fformat y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o elfennau i gynorthwyo’r broses gyfateb:
- Cwrdd â’r prynwr – lle mae prynwyr yn gofyn am gyfarfodydd rhagarweiniol wedi’u trefnu ymlaen llaw gyda chwmnïau
- Gwahoddir prynwyr o amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys manwerthu, gwasanaethau bwyd a chaffael cyhoeddus
- Fformat sy’n defnyddio amser yn effeithlon – cyfarfodydd rhagarweiniol byr gyda phrynwyr sydd wedi cael eu dewis ymlaen llaw gan y prynwyr
- Arddangosfa cynnyrch – cyfle i brynwyr weld rhagolwg o'r cynnyrch
- Rhagolwg o gynnyrch NEWYDD – dros 200 o gynhyrchion yn cael eu lansio
- Cyfeiriadur ar-lein o gwmnïau bwyd a diod o Gymru – i brynwyr bori drwyddynt i ofyn am gyfarfodydd gyda chyflenwyr posibl
- Derbyniad rhwydweithio i brynwyr a chwmnïau bwyd a diod o Gymru
- Cyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Golff BlasCymru/TasteWales gyda phrynwyr ar Gwrs Cwpan Ryder


Lleoliad y Digwyddiad
Y lleoliad ar gyfer y digwyddiad yw Canolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru ger Casnewydd – cyfleuster pwrpasol wrth ymyl Gwesty’r Celtic Manor sydd â chysylltiadau trafnidiaeth ffordd, rheilffordd ac awyr rhagorol.
Achrediad BRC neu Salsa
Diolch am ddangos diddordeb. Mae'r digwyddiad bellach yn llawn ac mae cofrestru wedi cau.


Cynhyrchwyr - Sut i Gofrestru
Diolch am ddangos diddordeb. Mae'r digwyddiad bellach yn llawn ac mae cofrestru wedi cau.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i BlasCymru/TasteWales 2021
Adborth gan gynadleddwyr masnach a ddaeth i’r digwyddiad yn 2019
“Dyma’r sioe fasnach orau i mi fynd iddi o bell ffordd. Rwy’n gobeithio y bydd rhai sioeau eraill yn dysgu gennych chi – roedd ffocws pendant i’r digwyddiad ac roedd yn defnyddio amser yn effeithlon”.
“Roedd yn wirioneddol wych – digwyddiad gwerth chweil”
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru
Mae’r ganolfan ychydig oddi ar yr M4 [C24] ger Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru ac mae ganddi gysylltiadau gwych â rhwydwaith ffyrdd y DU. 45 munud o Faes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Bryste; 2 awr o Faes Awyr Heathrow Llundain. Gwasanaethau trên o ddinasoedd eraill i Gasnewydd; 10 munud o’r orsaf drenau i’r Ganolfan Gynadledda.