Bydd y timau Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy a Barod am Fuddsoddiad yn y Parth Buddsoddwyr i drafod eich cynlluniau twf a'r opsiynau cyllid sydd ar gael i gefnogi'ch uwchraddio chi.
Mae'r rhaglen Barod am Fuddsoddiad hyd yma wedi helpu i sicrhau dros £10m mewn cyllid ar gyfer busnesau bwyd a diod yng Nghymru, gan gefnogi eu twf tymor hir. Gall y tîm Barod am Fuddsoddiad eich cynorthwyo chi i sicrhau bod eich busnes yn ‘barod am fuddsoddiad’ trwy eich cefnogi chi gyda
• Modelu ariannol
• Cynllunio busnes
• Cyrchu gwahanol ffynonellau cyfalaf
Bydd Rheolwyr Clwstwr Rhanbarthol Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wrth law i drafod sut y bydd mynd i’r afael â’r pedair her allweddol yn arwain at uwchraddio’n llwyddiannus ac yn gynaliadwy:
CYFALAF
Oes gennych chi fynediad i'r cyfalaf cywir i helpu'ch busnes i dyfu?
CAPASITI
A oes angen capasiti arnoch chi i allu uwchraddio eich busnes?
CYMWYSEDDAU
Oes gennych chi fynediad i'r sgiliau cywir i raddio'ch busnes?
HYDER
Ydych chi am fod yn fwy hyderus am y dyfodol?
Ewch i weld y rhestr lawn a rhag-archebu eich apwyntiad yma