Y Rhwydwaith Clystyrau

Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio’n strategol gyda'r sectorau bwyd a diod, wedi creu nifer o Grwpiau Clwstwr - Clwstwr Prif Weithredwyr, Clwstwr Diodydd, Clwstwr Allforio, Clwstwr Bwyd Da, Clwstwr Mêl, Clwstwr Garddwriaeth, Clwstwr Maeth Cymru, Clwstwr Bwyd Môr a'r Clwstwr Cynaliadwyedd.

Cafodd y clystyrau hyn eu datblygu i sicrhau’r twf economaidd mwyaf posibl yng Nghymru ac i ymateb i sectorau sydd angen cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Maent yn dod â phobl o’r un anian at ei gilydd, gyda’r amcan allweddol o helpu busnesau i gyflymu’r twf mewn gwerthiant, elw a chyflogaeth.

Mae’r clystyrau’n uchelgeisiol a byddant yn sicrhau newid sylweddol yn hytrach na thwf graddol. Bydd Clystyrau’n rhoi cymorth a dealltwriaeth i chi ac yn eich galluogi i ddatblygu cyfleoedd i weithio gyda chyflenwyr eraill, gan gynnig atebion i’ch gilydd i oresgyn y rhwystrau sy’n atal twf ac i fanteisio ar gyfleoedd masnachol, yn ogystal â helpu i ddatblygu eich capasiti a’ch gallu.