Clwstwr Allforio
Gall allforio drawsnewid eich busnes. Ymysg y manteision posib mae cynnydd yn y gwerthiannau a’r elw; yn ogystal ag annog creadigrwydd ac arloesedd; a chynyddu’r arbedion effeithlonrwydd.

Yn 2020 fe wnaeth Cymru allforio gwerth £550m o fwyd a diod, cynnydd o 26% ers 2016 gyda'r UE, ac yna Asia a Oceania, a'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA) y 3 phrif farchnad allforio. Mae'r twf cadarn yn adlewyrchu ansawdd uchel y bwyd a'r diod a gynigir gan gynhyrchwyr Cymru.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Clwstwr Allforio i ddod â chwmnïau o'r un anian at ei gilydd i helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau i allforio.
Mae'r Clwstwr Allforio yn darparu fforwm unigryw i gwmnïau bwyd a diod ddysgu, rhannu profiadau a chydweithio i adeiladu allforion cynaliadwy a phroffidiol. Mae ein haelodaeth bellach yn cynnwys bron i 50 o gwmnïau bwyd a diod, yn amrywio o allforwyr mawr sefydledig i fusnesau bach sy'n dechrau ar eu taith allforio.
Os oes gennych uchelgais glir i dyfu eich gallu i allforio, gall y Clwstwr Allforio eich helpu ar eich taith i droi eich uchelgeisiau'n realiti.
Boed yn allforwyr newydd neu brofiadol, bydd yr aelodau’n elwa ar y canlynol:
Cysylltwch â ni'n uniongyrchol i ddarganfod mwy.
Ffôn
+44 (0) 2920 100 888
E-bost
info@tastewales.com