Mae’r busnesau hyn yn cynhyrchu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol.
Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn arferion busnesau bwyd-amaeth Cymru, gan dyfu’r diwydiant, creu swyddi a chreu twf economaidd cynaliadwy ar yr un pryd.
Mae’r uchelgais hon yn cael ei chefnogi drwy ddatblygu’r Clwstwr Cynaliadwyedd, sy’n anelu at godi proffil y diwydiant bwyd-amaeth drwy ddathlu ei nodweddion cynaliadwyedd.
Drwy sefydlu Gwerthoedd Brand Cynaliadwy, nod Llywodraeth Cymru yw cefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei uchelgais i gael un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd. Yn ogystal â hynny, byddant yn elwa ar gymdeithas iachach a mwy cyfartal, sy’n well yn amgylcheddol ac yn gryfach yn economaidd.
Bydd Clwstwr Cynaliadwyedd cynhyrchiol sydd wedi’i hwyluso’n dda yn helpu busnesau yn eu taith o welliant parhaus i fabwysiadu’r gwerthoedd cydnerthedd, ansawdd, cyfrifoldeb a dilysrwydd.
Bydd y Clwstwr Cynaliadwyedd yn defnyddio’r dull gweithredu helics triphlyg sydd wedi’i fabwysiadu gan Glystyrau Bwyd a Diod eraill Cymru. Mae’r model hwn yn cynnwys y Llywodraeth, y diwydiant a’r byd academaidd yn gweithio law yn llaw i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant, ac yn cydweithio i yrru diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei flaen.
Bydd rhaglen y Clwstwr Cynaliadwyedd yn cefnogi ac yn datblygu arferion busnes cynaliadwy ledled Cymru, gan gynnwys:
- Codi ymwybyddiaeth o frand Cymru a hyrwyddo ei bresenoldeb ar y llwyfan fyd-eang
- Cynhyrchu màs critigol o aelodau sy’n cymryd rhan weithredol, gan gynnwys llysgenhadon busnes, i ddangos yr arferion gorau
- Adeiladu capasiti’r diwydiant yn gynaliadwy er mwyn mabwysiadu’r gwerthoedd cydnerthedd, ansawdd, cyfrifoldeb a dilysrwydd
- Gwella dealltwriaeth busnesau o fanteision ymgysylltu cynaliadwy, a’r dystiolaeth o’i blaid, gan gynnwys mesur manteision ariannol llwyddiannau cynaliadwy
- Darparu mecanwaith ar gyfer rhannu’r arferion gorau a hynt eu taith gwelliant parhaus, a hwyluso hynny
- Ymgysylltu â’r holl Glystyrau Bwyd eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a darparu arweiniad iddynt.
