Mae garddwriaeth yn sector twf allweddol i Lywodraeth Cymru ac mae'n hanfodol ar gyfer cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol oherwydd y rôl y gall ei chwarae o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd y cyhoedd, ac adfywiad economaidd cefn gwlad Cymru. Wedi'i ddiffinio gan gynhyrchu ffrwythau a llysiau, planhigion addurnol, cnydau newydd a choed ifanc, mae garddwriaeth yn tyfu'n gyson, ac mae ein Cynllun Gweithredu Strategol yn canolbwyntio ar adeiladu'r sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn gwella capasiti a gallu'r diwydiant. Ei nod yw cynyddu cyflawniadau profedig a fydd yn parhau i fod o fudd i fusnesau garddwriaeth Cymru.
Mae'n ymateb i anghenion uniongyrchol ac yn darparu arweinyddiaeth i arfogi busnesau â'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol ar gyfer twf gwyrdd a chynhwysol a gefnogir gan ymchwil gymhwysol a’r defnydd priodol o dechnoleg.
Dyma brif nodau’r clwstwr:
- Byrhau cadwyni cyflenwi drwy hyrwyddo cynnyrch lleol o Gymru
- Lleihau gwastraff, gyda phwyslais ar blastigau untro a chodi gwerth gwastraff (y broses o ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio deunyddiau gwastraff a’u troi’n gynnyrch mwy defnyddiol)
- Hyrwyddo cydweithio drwy greu ‘clystyrau’ o gynhyrchwyr bwyd, tyfwyr a garddwyr lleol ledled Cymru. Mae mwy o wybodaeth am ein clystyrau yma.
Dyma nodau eraill y clwstwr:
- Codi proffil tyfwyr, garddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru
- Hybu cyfnewid gwybodaeth ym maes Garddwriaeth yng Nghymru
- Cyfeirio aelodau at ffynonellau ariannu posib
- Hyrwyddo cynnyrch garddwriaethol o Gymru