Clwstwr Maeth Cymru

Mae Clwstwr Maeth Cymru’n cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod, y byd academaidd a’r Llywodraeth i ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu, arloesi, dealltwriaeth a gwybodaeth, a thwf yn y farchnad lle daw bwyd, iechyd, maeth a lles at ei gilydd.

Mae’r clwstwr yn manteisio ar arbenigedd ym mhrifysgolion Cymru, iechyd cyhoeddus a’r canolfannau bwyd i ysgogi ymchwil cydweithredol a dealltwriaeth, arloesi, datblygu cynnyrch, yn ogystal â chael mynediad at farchnadoedd newydd.

Mae aelodaeth o’r clwstwr yn agored i holl gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, y byd academaidd, canolfannau bwyd, a sefydliadau sector cyhoeddus sydd â diddordeb penodol mewn cynnyrch bwyd a’r berthynas rhwng bwyd, maeth ac iechyd

Mae Maeth Cymru’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Gwella manteisiol maethlon bwyd
  • Prosiectau bwyd a thechnoleg amaethyddol
  • Newid yn yr hinsawdd a defnyddio adnoddau’n effeithlon
  • Biowyddoniaeth, gwyddor bywyd ac iechyd drwy faeth
  • Creu gwerth a chynaliadwyedd
  • Datblygu cynnyrch maethol gadarn
  • Maeth ar gyfer heneiddio'n iach.

 

Bydd aelodau Maeth Cymru’n elwa ar y canlynol:

  • Cyngor ac arbenigedd ar ddatblygu strategaethau Ymchwil a datblygu i gynorthwyo twf
  • Mynediad at wybodaeth a dealltwriaeth dechnegol ac am y farchnad
  • Mynediad at gyfleoedd i ariannu Ymchwil a Datblygu drwy ffynonellau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
  • Cyfleoedd i ddatblygu masnach
  • Mynediad at gymorth rheoleiddiol a thechnegol
  • Mynediad at bartneriaid yn y diwydiant, y byd academaidd ac iechyd cyhoeddus ar gyfer prosiectau cydweithredol (gan gynnwys cydweithredu rhyngwladol) i ysgogi arloesedd a datblygu cynnyrch newydd