Clwstwr Mêl

Nod y Clwstwr Mêl yw galluogi busnesau i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy drwy gefnogi’r sector, a hynny drwy ddarparu cymorth penodol.

Bydd y clwstwr yn llwyfan ar gyfer camau gweithredu ar y cyd i nodi a datrys problemau cyffredin. Bydd yn casglu ynghyd gwenynwyr sydd â’u bryd ar fusnes ac sy’n dymuno tyfu ochr yn ochr â phartneriaid masnachol, academaidd a’r llywodraeth. Pwrpas y clwstwr hwn yw codi proffil a lefelau cynhyrchu mêl Cymreig.

Mae’r clwstwr yn darparu cymorth i oresgyn rhwystrau i dyfu ac yn hwyluso cyfleoedd i weithio gyda busnesau o natur debyg. Mae wedi’i anelu’n bennaf at gynhyrchwyr mêl ar raddfa lai sydd am ddatblygu eu capasiti.

Bydd rhaglen y clwstwr yn cynnwys:

  • Busnesau gyda phrosiectau ar gyfleoedd datblygu allweddol
  • Rheolwr Clwstwr i’ch helpu chi i ddatblygu atebion er mwyn goresgyn y rhwystrau i dyfu, gan gynnwys sefydliadau academaidd, cynhyrchwyr, y Llywodraeth ac amrywiaeth o randdeiliaid.
  • Mentora arbenigol wedi’i deilwra.

 

Mae gweithgareddau'r clwstwr yn cynnwys:

  • Cyfnewid gwybodaeth rhwng cymheiriaid
  • Digwyddiadau a gweithdai
  • Cydweithio ar weithgareddau masnachol
  • Rhannu cost / adnoddau
  • Ychwanegu gwerth
  • Codi ymwybyddiaeth o gynhyrchu mêl lleol a rhanbarthol
  • Busnesau’r sector preifat yn gyrru’r agenda ymchwil
  • Deall ac ymuno â marchnadoedd newydd
  • Mynediad at ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd
  • Treialu gwasanaethau newydd ar sail yr anghenion busnes a nodwyd

Mae'r Clwstwr Mêl yn ymroddedig i godi proffil a chynhyrchu mêl o Gymru. Mae Clwstwr Mêl Cymru yn dwyn ynghyd ffermwyr gwenyn sydd â meddwl busnes, yn cynhyrchu mêl Cymreig 100% ac sydd ag uchelgais i dyfu gyda chefnogaeth partneriaid masnachol, llywodraeth ac academaidd.
o Mae Clwstwr Mêl Cymru yn cydnabod bod gan ffermwyr gwenyn Cymru ddealltwriaeth a gwybodaeth soffistigedig o ymddygiad gwenyn, eu patrymau bwydo a sut y gall newidiadau yn yr hinsawdd effeithio ar y gweithgaredd hwn ac mae'n darparu llwyfan i ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach a'u harddangos i gynulleidfa ehangach.

https://menterabusnes.cymru/cywain/en/honey-cluster/