- Hafan /
- Parthau /
- Parth Cynaliadwyedd /
Parth Cynaliadwyedd
Mae Cymru’n gartref i ddiwydiant bwyd-amaeth deinamig sy’n cynnwys ffermwyr, pysgotwyr, busnesau bwyd a diod o dyddynnod, microfusnesau, busnesau artisan, amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig, i ystadau ffermio a chwmnïau bwyd ar raddfa fwy.
Mae’r busnesau hyn yn cynhyrchu pob math o gynnyrch – o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd penodol i eitemau ar raddfa fawr ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn arferion busnesau bwyd-amaeth Cymru, gan dyfu’r diwydiant, creu swyddi a chreu twf economaidd cynaliadwy ar yr un pryd.
Noddir Gan
