Hysbysiad Preifatrwydd BlasCymru / TasteWales
Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am unigolion (yn cynrychioli busnesau, prynwyr masnach (cenedlaethol a rhyngwladol) a rhanddeiliaid allweddol eraill) sy'n mynegi diddordeb i fynychu BlasCymru / TasteWales, digwyddiad Bwyd a Diod mwyaf Cymru.
Trwy gwblhau'r cais rydych chi'n rhoi eich caniatâd i Lywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth i chi mewn perthynas â BlasCymru / TasteWales. Os dewiswch beidio â chymryd rhan gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Rhowch wybod i swyddfa BlasCymru / TasteWales (manylion isod) a bydd eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar gofrestr BlasCymru / TasteWales.
Bydd y contractwr (Orchard Media) sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn coladu'r wybodaeth a dderbynnir.
Bydd y wybodaeth a gedwir ar y gronfa ddata yn cynnwys:
- Enw, sefydliad, cyfeiriad busnes, e-bost busnes, rhif ffôn busnes, cyfeiriad gwefan busnes, sianeli cyfryngau cymdeithasol busnes.
Rhennir y data hwn â sefydliadau sydd wedi'u contractio gan Lywodraeth Cymru i ddarparu BlasCymru / TasteWales yn unig ac nid at unrhyw bwrpas arall.
Bydd eich manylion yn cael eu cadw a'u storio am hyd at ddwy flynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i:
- cyrchu'r data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw arnoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
- (mewn rhai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu;
- (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael ei 'ddileu';
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Cyswllt Cwsmer, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: https://www.ico.org.uk
I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, yna cysylltwch â'n Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000 neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/contact-us
Cyswllt: swyddfa BlasCymru / TasteWales
Sally Harcourt: sally.harcourt@gov.wales
Ffôn: 07795 336902.