Digwyddiad masnach bwyd a diod mwyaf Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn dod â phrynwyr masnach a chwmnïau bwyd a diod blaenllaw o Gymru at ei gilydd yn BlasCymru/TasteWales 2021. Hwn fydd y digwyddiad ‘cwrdd â’r cyflenwr’ ac arddangos cynnyrch mwyaf yng nghalendr y diwydiant yng Nghymru.


Bwyd a diod o Gymru mewn niferoedd
7.9bn
Trosiant
33,600
Pobl a gyflogir
1,465
Unedau Busnes
Ystod eang o gategorïau wedi’u dwyn ynghyd gan Lywodraeth Cymru
Mae’r rhain yn amrywio o gwmnïau mawr i gynhyrchwyr artisan – sy’n cynrychioli ystod eang ac amrywiol o gategorïau cynnyrch, gan gynnwys:
- Cynnyrch heb gynhwysion penodol (“Free from”)
- Cynnyrch Figan
- Cynnyrch wedi’i Bobi
- Cynnyrch Llaeth
- Cig a Chynnyrch Cig o Gymru
- Bwyd Môr
- Prydau Parod
- Cwrw, Seidr, Medd, Gwinoedd a Gwirodydd
- Diodydd Meddal
- Byrbrydau
- Bwydydd
- Cyffeithiau a Chyfwydydd
- Sawsiau’r Byd
- Cynhwysion Cogyddion
- Melysion
- Cynnyrch Ffres
200+ New product launches
200 + NEW products will be launched at Blascymru/TasteWales in a broad range of categories.
Cwrdd â diwydiant o dan yr un to
Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n sbarduno ein diwydiant bywiog ac arloesol.
Arddangosfeydd a sesiynau blasu
Arddangosir ystod eang o gategorïau gan gynnwys labeli preifat, cynhwysion, gwasanaethau bwyd a chynnyrch manwerthu.
Amserlen effeithlon o gyfarfodydd dan eich rheolaeth chi ar gyfer un diwrnod neu ddau
Amserlen o gyfarfodydd pwrpasol ar ffurf rhaglen o gyfarfodydd rhagarweiniol byr sy’n defnyddio amser yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn canolbwyntio ar eich amcanion.
Gwybodaeth a chyngor arbenigol gan dîm Llywodraeth Cymru
Er mwyn helpu i ganfod cynnyrch a chyflenwyr newydd sy’n bodloni’ch meini prawf, gall tîm BlasCymru/TasteWales ddarparu gwybodaeth bwrpasol i chi a’ch cyflwyno i gyflenwyr priodol.
Proffiliau cwmnïau
Bydd proffil a gwybodaeth am bob cynhyrchydd bwyd a diod ar gael cyn y digwyddiad.
Chwarae cwrs Cwpan Ryder 2010
Mae'r digwyddiad yn cynnwys cystadleuaeth golff ddewisol. Cewch ddilyn ôl troed golffwyr gorau’r byd a rhoi cynnig ar gwrs Cwpan Ryder 2021.
Adborth gan gynadleddwyr masnach a ddaeth i’r digwyddiad yn 2019
“Dyma’r sioe fasnach orau i mi fynd iddi o bell ffordd. Rwy’n gobeithio y bydd rhai sioeau eraill yn dysgu gennych chi – roedd ffocws pendant i’r digwyddiad ac roedd yn defnyddio amser yn effeithlon”.
“Roedd yn wirioneddol wych – digwyddiad gwerth chweil”
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru
Mae’r ganolfan ychydig oddi ar yr M4 [C24] ger Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru ac mae ganddi gysylltiadau gwych â rhwydwaith ffyrdd y DU. 45 munud o Faes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Bryste; 2 awr o Faes Awyr Heathrow Llundain. Gwasanaethau trên o ddinasoedd eraill i Gasnewydd; 10 munud o’r orsaf drenau i’r Ganolfan Gynadledda.