Alan Mumby

Alan yw'r darlithydd sy'n cyflwyno elfennau craidd cwrs Meistr Rheoli Arloesedd Rhyngwladol PCYDDS, sy'n cynnwys y modiwlau Rheoli Arloesedd a Rheoli Datblygu Cynnyrch Newydd.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cyfun fel Dylunydd Cynnyrch ac yna fel Strategydd Dylunio ac Arloesi, mae Alan wedi gweithio i gwmnïau, asiantaethau'r llywodraeth a phrifysgolion yma yng Nghymru yn ogystal â gyda chwmnïau cleientiaid a sefydliadau ledled Ewrop ac Asia. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ym 1995, ac mae Alan bellach ar fwrdd ymgynghorol RSA Cymru.

Y tu allan i’w waith, mae bywyd Alan yn ymwneud â gitarau, criced, rygbi a threulio cymaint o amser yn Languedoc ag sy’n bosibl!