Prif Swyddog Masnachol, Co-op
Ymunodd Michael Fletcher â’r Co-op yn 2013 ac fel Prif Swyddog Masnachol Michael sydd yn gyfrifol am y strategaethau ffynonellu a masnachu ar draws Co-op a Nisa.
Bu Michael yn y busnes Manwerthu Bwyd drwy gydol ei yrfa, ac mae ganddo brofiad gweithredol eang mewn datblygu ac arwain strategaeth fasnachol, agor marchnadoedd newydd ac arwain prosiectau integreiddio. Fel rhan o’i ddatblygiad, bu Michael yn rheoli siopau am flwyddyn, gan feithrin angerdd ynddo dros weithredu holl weithgareddau masnachol drwy lens y siop.
Dros y 18 mis diwethaf, mae’r tîm Masnachol wedi bod drwy raglen newid sylweddol, sydd wrth wraidd adeiladu Co-op sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Bu’r timau’n gyfrifol am integreiddio Nisa i mewn i’r Co-op, gan gynllunio ac adeiladu Llwyfan Fenter newydd a fydd yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer siopau nwyddau cyfleus ‘wedi’u teilwra’, gan ddatblygu cynnig brand Co-op sydd wedi ennill dros 100 o wobrau (eleni’n unig) a chreu gweledigaeth ar gyfer darparu bwyd sy’n nodi llwybr tuag at ddyfodol bwyd mwy moesegol a chynaliadwy.