Noddwr Lanyard a Bathodyn
Puffin Produce:
Cefndir Puffin Produce: cartref Blas y Tir.
Datblygodd Puffin Produce, sydd wedi'i leoli yn Hwlffordd, o Grŵp Marchnata Tatws Sir Benfro, cwmni cydweithredol i dyfwyr cnydau a ffurfiwyd yn y 1970au. Crëwyd Puffin Produce yn 1995 ac mae wedi aros yn driw i'w wreiddiau ers hynny.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Puffin Produce wedi profi twf cyflym o ran cyfran y farchnad a chyfleusterau: gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd, buddsoddwyd tua £25 miliwn mewn gwariant cyfalaf yn y cwmni, gan arwain at dwf o 200% a nifer y staff yn cynyddu o 50 i 190.
Yn 2011, lansiodd Puffin Produce ei frand 'Blas Y Tir' mewn ymateb i alw gan siopwyr a manwerthwyr yng Nghymru. Mae dulliau marchnata wedi'u targedu wedi gweld y brand yn sicrhau gwerthiannau o fwy na £12 miliwn y flwyddyn mewn tair blynedd ac ym mis Rhagfyr 2013, sicrhaodd y cwmni statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) anrhydeddus ar gyfer Tatws Cynnar Sir Benfro, gan roi amddiffyniad cyfreithiol i’r tatws eiconig.
Mae cynnyrch y cwmni ar gael mewn llawer o fanwerthwyr yng Nghymru, ac mae'r brand yn cwmpasu amrywiaeth o datws gan gynnwys PGI Tatws Cynnar Sir Benfro, ynghyd â chynnyrch tymhorol fel cennin, bresych, blodfresych a chennin Pedr. Mae Puffin Produce wedi bod yn tyfu cennin Pedr ers 2007 a gwerthwyd dros 1.8 miliwn bwnsh dros y degawd diwethaf, a disgwylir i'r nifer fod yn fwy na 2.5 miliwn eleni.